Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: The Non-Commercial Movement of Pet Animals Order 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi nifer o Benderfyniadau y Comisiwn ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â mesurau gwarchod mewn perthynas â feirws brech y mwnci, ffliw adar pathogenig iawn a symudiadau adar anwes sy’n teithio gyda’u perchnogion i ardal y Gymuned, diogelu rhag cyflwyno’r gynddaredd, clefyd Hendra, clefyd Nipah ac ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (yr Undeb Ewropeaidd) Rhif 1152/2011 sy’n atodi Rheoliad (y Comisiwn Ewropeaidd) Rhif 998/2003 mewn perthynas â mesurau iechyd ataliol er mwyn rheoli heintiad llyngyren ruban mewn cŵn.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ni wnaethpwyd The Non-Commercial Movement of Pet Animals Order 2011 yn ddwyieithog.
[Rheol Sefydlog 21.2 (ix) - nad yw wedi’i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Rhagfyr 2011
Ymatebodd y Llywodraeth fel a ganlyn:
Gorchymyn Symud Anfasnachol Anifeiliaid Anwes 2011
Mae’r Gorchymyn cyfansawdd hwn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na’i wneud, yn ddwyieithog.